y blog
Newyddion a Diweddariadau
Darllenwch am y newyddion diweddaraf am yrfa'r delynores Gwenllian.
Penwythnos Telyn Camac Caerdydd
Roeddwn wrth fy modd i gael gwahoddiad i gymryd rhan ym Mhenwythnos Telyn Camac Caerdydd, nid yn unig fel perfformiwr ac athrawes, ond hefyd i weld holl waith caled Elen Vining a’i theulu dros y 25 mlynedd diwethaf.
Fel myfyriwr yng Nghaerdydd, roeddwn i mor ffodus i gael swydd wych, yn gweithio i Elen yn Telynau Vining ac yn gallu ymarfer y delyn yn y cyfnodau tawel - ennill:ennill! Dysgais gymaint yn y rôl, a hefyd ennill ffrind am oes.
Blwyddyn newydd, newydd wedd?
Mae'n ymddangos bod Ionawr yn llithro fel tywod drwy 'nwylo. Fel sy'n gyffredin dyddie 'ma, dwi'n gweld bo fi di llwyddo i gyrradd diwedd y mis heb wybod sut; teimlo'r oriau, y dyddiau a'r wythnosau yn troi'n slwtsh yn fy ymennydd wrth i fi geisio gwahaniaethu un dydd Gwener oddi wrth arall.
Fi 'di cyrradd y rownd derfynol!
Roeddwn i'n eithaf cyffrous i ddarganfod ychydig wythnosau yn ôl fy mod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Priodas Caint!
Ail CD ar gael yn fuan!
Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi wedi rhannu ychydig fan hyn a fan draw am fy CD nesaf, ac rywsut, mae'r dyddiad rhyddhau bron a chyrradd yn baord! Gyda llai nag wythnos i fynd, rydw i mor gyffrous i rannu'r HOLL fanylion am fy CD nesaf gyda chi.
'Flying with the Birds' ar y radio
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, rwy'n dal i deimlo gwefr pan fyddaf yn darganfod bod fy CD wedi'i chwarae ar y radio - a gobeithio na fyddaf byth yn mynd yn rhy "cŵl" am hynny!
Clychau Melys Arian
Ydi ysbryd y Nadolig wedi'ch dal chi eto?! Falle bo chi'n meddwl fy mod i'n jocan - dim ond mis Hydref yw e wedi'r cwbwl!!
'Argraff' arall
Sai’n siwr amdano chi, ond roedd diwedd yr haf yn un eitha llwyd, fel tase’r hydref wedi cyrradd yn gynt na’r disgwyl!
O'r sgrin...
Un o'r rhannau mwyaf diddorol o chwarae ar gyfer achlysuron a digwyddiadau arbennig yw cael cyfle i gwrdd ag amrywiaeth enfawr o bobl newydd, ac rwy wedi methu hyn yn fawr dros y cyfyngiadau Covid. Felly, roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi gymryd rhan mewn lluniau a fideo mewn arddull briodas ar y rhaglen Bridgerton!
Llwyddiannau Myfyrwyr
Mae ein bywydau i gyd wedi cael eu tarfu'n fawr dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n golygu mod i hyd yn oed fwy balch o ba mor ymroddedig fu fy myfyrwyr.
Déjà Vu
Wrth i ni gyrradd yr haf, mae gennyf deimlad pendant o déjà vu yn ysgrifennu'r diweddariad hwn...
Gwedd Newydd ar Galon Lan
Gwyliwch fy fideo newydd yn perfformio fy nghyfansoddiad diweddaraf, Ffantasi ar Calon Lan.