'Flying with the Birds' ar y radio

Adar yn hedfan trwy gymylau. Gan Bradley Dunn

Mae'n rhaid i mi gyfaddef, rwy'n dal i deimlo gwefr pan fyddaf yn darganfod bod fy CD wedi'i chwarae ar y radio – a gobeithio na fydda i byth yn mynd yn rhy "cŵl" am hynny!

'Flying with the Birds Dream' oedd un o'r darnau cyntaf i mi ddewis ar gyfer fy CD cyntaf, 'O Wyll i Wawr'. Er nad chafodd ei ysgrifennu i mi, gwens uniaethu gyda'r darn o'r dechrau; roedd hedfan yn aml yn rhan o'm breuddwydion ac roedd y gerddoriaeth heb os yn cyfleu byd o freuddwydion. Hyfryd oedd clywed y perfformiad yma o'r darn unwaith eto - chwarae sicr ac egniol wrth i'r aderyn hedfan, yn gyfochrog ag adrannau meddylgar a thawel. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn sicr nid wyf yn ei chwarae yn union yr un ffordd, a hynny'n gwbl briodol. Mae bod yn artist yn golygu dysgu'n barhaus ac i ganiatáu i'n profiadau ddwysáu a llywio ein perfformiadau. Hefyd, dim ond un ciplun o ddarn yw recordiad. Mae pob perfformiad yn unigryw, ac weithiau, mae rhywbeth hudol yn digwydd gyda'r egni sy'n bodoli y tro hwnnw yn yr un lle hwnnw gyda'r union bobl hynny. Rwy'n edrych ymlaen at fwynhau'r teimlad hwn eto pan fyddaf yn perfformio'r darn gwych hwn, ynghyd ag ambell un arall gan Sue Rothstein, yng Nghyngres Delynau'r Byd yng Nghaerdydd. Yn y cyfamser, gallwch ddal i fyny â'r bennod o Orffennaf y 1af o'r Clasuron Hanfodol gyda Georgia Mann drwy BBC Sounds - bydd y bennod ar gael tan ddiwedd y mis.

blaenorol
blaenorol

Ail CD ar gael yn fuan!

Nesaf
Nesaf

Clychau Melys Arian