Blwyddyn newydd, newydd wedd?
Mae'n ymddangos bod Ionawr yn llithro fel tywod drwy 'nwylo. Fel sy'n gyffredin dyddie 'ma, dwi'n gweld bo fi di llwyddo i gyrradd diwedd y mis heb wybod sut; teimlo'r oriau, y dyddiau a'r wythnosau yn troi'n slwtsh yn fy ymennydd wrth i fi geisio gwahaniaethu un dydd Gwener oddi wrth arall.
Er hynny, y tro hwn gallaf ddweud yn hyderus mod i wedi treulio nifer mwy o'r oriau hynny'n ffocysu a chanolbwyntio, gan adeiladu'r stamina a'r deheudir bysedd y bydd ei angen arnaf dros y misoedd nesaf ar gyfer y cyngherddau sydd ar y gweill. Rydw i bob amser yn mwynhau'r ymdeimlad hwnnw o newydd-deb a ddaw yn sgil y Flwyddyn Newydd, er fy mod yn aml yn meddwl - fel rhywun sy' wedi hen roi'r gorau i "addunedau" go iawn - faint sy'n dal i gadw at eu hymrwymiadau newydd wrth i ni agosáu at ddiwedd y mis? Rwy'n teimlo bod gwir newid yn cymryd llawer mwy o amser i gydio nag yr ydym yn ei ddisgwyl neu'n gobeithio. Yn fy ngwersi, dwi wedi dod i dderbyn y bydd rhyw radd o ailadrodd fy hun. Ond, er mwyn i fy ngeiriau gael gwir ystyr, mae'n rhaid i'r myfyrwyr fod yn agored i'r newid hwnnw. Alla i ddim ei orfodi na'i eisiau ar eu cyfer.
Ymhen ychydig wythnosau byddaf yn arwain fy nosbarth meistr cyntaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle dewisais i astudio am y tro cyntaf. Dwi wir yn edrych ymlaen at glywed beth mae'r myfyrwyr wedi paratoi. Mae gen i lawer o brofiad gyda dosbarthiadau meistr, ar ôl cymryd rhan mewn llawer fy hun, wedi dysgu dosbarthiadau meistr a gweithdai, yn ogystal ag arsylwi ar fy myfyrwyr yn cymryd rhan. Mae mor ddiddorol sut y gall rhywun ddweud yn union yr un peth mewn bron yn union yr un ffordd ond, rhywsut, mae nawr yn cael effaith. Dyw hi ddim yn golygu bod yr athro sydd wedi ei ddweud ganwaith o'r blaen wedi methu, na bod yr athro dosbarth meistr o reidrwydd yn well. Mae'n dibynnu cymaint ar feddylfryd y perfformiwr yn y foment honno.
Dyma un o'r rhesymau rwyf bob amser yn annog myfyrwyr o bob oed a lefel i chwarae i eraill. Gall fod yn frawychus a dweud y lleiaf, yn enwedig os ydych chi'n rhywun sy'n mynd yn nerfus hyd yn oed wrth chwarae i'ch athro; ond gall wneud cymaint o wahaniaeth i'r ffordd rydych chi'n ymarfer a pharatoi, a dydych chi byth yn gwybod pwy fydd yn cael eu hysbrydoli gan eich perfformiad.