Perfformio

Mae'r delynores Gymreig, Gwenllian Llyr, yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei pherfformiadau carismatig ag egnïol.


Enillodd Gwenllian wobr ddwywaith yng Nghystadleuaeth Delyn Ryngwladol UDA yn Bloomington gan dderbyn canmoliaeth uchel am ei dawn cerddorol a’i gallu i gysylltu â chynulleidfaoedd.

Mae hi hefyd wedi ennill llawer o wobrau yn fwy lleol, gan gynnwys Gwobr Goffa Len Lickorish am Chwaraewr Llinynnol o Addewid yng Nghystadlaeuaeth Cerddoriaeth Blynyddol ROSL 2018, yn ogystal â chael ei henwi'n Artist gyda City Music Foundation yn 2017.

David_Myers_Blue_dress.jpeg.jpg

uchafbwyntiau gyrfaol

Mae gyrfa Gwenllian wedi ei harwain ar draws y byd.

Mae hi wedi perfformio mewn lleoliadau mawreddog yn gyfochrog ag artistiaid enwog, gan gynnwys Rebecca Evans, Imogen Cooper, Al Jarreau, Matthew Rees a Bryn Terfel. yn 2017, bu Gwenllian yn teithio ar draws Prydain i hybu lawnsiad ei halbwm gyntaf, 'O Wyll i Wawr', gan berfformio cynherddau unawdol ac ar gyfer Live Music Now.

Mae galw cynyddol am Gwenllian fel unawdydd gyda cherddorfeydd a chorau, gan ei galluogi i ddangos ystod eang o gerddoriaeth delyn i fwy o gynulleidfaoedd. Fe'i gwahoddwyd i fod yn unawdydd gwadd gyda Chôrdydd wrth iddynt berfformio ar lwyfan Neuadd Zankel yn Neuadd Carnegie, ac roedd hi'n mwynhau'r cyfle i rannu cerddoriaeth cyfansoddwyr o Gymru yn y lleoliad mawreddog hwn. Mae Gwenllian hefyd wedi perfformio'r Concerto tanllyd a rhythmig gan Ginastera gyda'r Milton Keynes Sinfonia, y Concerto ffliwt a thelyn poblogaidd gan Mozart ochr yn ochr â Shirley Barningham gyda Cherddorfa Siambr Hallgate, yn ogystal â'r 'Danses' lliwgar a chyferbyniol gan Debussy gyda Cherddorfa St. John's.

Cafodd Gwenllian y bleser o astudio gydag athrawon gwych mewn rhai o’r colegau gorau yn y byd, gan ennill graddau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Ysgol Juilliard ac yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau a chefnogaeth ariannol, enillodd Gwenllian sawl anrhydedd arall yn ystod ei hastudiaethau, gan gynnwys Gwobr William Schuman am gyflawniad ac arwainyddiaeth rhagorol yng ngherddoriaeth gan Ysgol Juilliard. Cymerodd hi fantais lawn o’r cyfle i weithio gyda nifer o artistiaid gwahanol yn ystod ei hastudiaethau, gan ddatblygu ei dealltwriaeth a’i hoffder o gerddoriaeth siambr ac i ymestyn y repertŵar telyn. Fel eiriolwr cerddoriaeth gyfoes, mae Gwenllian wedi gweithio gyda nifer o gyfansoddwyr dros y ddegawd ddiwethaf, gan helpu cerddorion a chynulleidfaoedd i ddeall hyblygrwydd y delyn, gan ddiweddu mewn nifer o berfformiadau cyntaf y byd. Yn ystod ei blwyddyn olaf yn Ysgol Juilliard, bu Gwenllian yn gweithio gyda’r gyfansoddwraig Sayo Kosugi a’r dawnsiwr a’r coreograffydd Eve Jacobs ar Nebula, Blooming ar gyfer telyn a dawns. Mae hi hefyd wedi gweithio ar sawl proisect cerddoriaeth siambr newydd gyda myfyrwyr cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd, megis yr un diweddaraf yn gynharach eleni fel rhan o Riot Ensemble gyda'r soprano Sarah Dacey.

Mae calendar Gwenllian yn parhau i fod yn amrywiol, gan gynnwys datganiadau unigol, gweithdai rhithiol, sesiynau recordio a ffeiriau priodas. Ei phrosiect diweddaraf yw recordio ei CD newydd gyda Tŷ Cerdd, a fydd yn cael ei ryddhau yn 2022. Mae sampl o raglenni ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ar gael yn ei Phecyn Electronig i'r Wasg.

 cael y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i fod y cyntaf i wybod am berfformiadau sydd ar y gweill.