Llwyddiannau Myfyrwyr

Gwen (41). Cymorth JPG

Mae ein bywydau i gyd wedi cael eu tarfu'n fawr dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n golygu mod i hyd yn oed fwy balch o ba mor ymroddedig fu fy myfyrwyr.

Ar ôl i'r cyfyngiadau Covid orffen y tro cyntaf, llwyddom i gael rhai gwersi wyneb yn wyneb, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi bod dros Zoom sydd wedi bod yn heriol i ni i gyd. Er gwaethaf hyn oll, mae pob un o'm myfyrwyr wedi datblygu mewn gwahanol ffyrdd: dysgu ystod eang o ddarnau newydd; bod yn agored i brofiadau cerddorol newydd drwy weithdai ar-lein; datblygu hyder i baratoi ar gyfer cystadleuaethau; ac ehangu eu galluoedd perfformio drwy sesiynau dwys o recordio ar gyfer arholiadau.

O Radd 2 i Radd 7, cafodd fy myfyrwyr lwyddiannau enfawr a dylent i gyd fod yn falch o'r cyfan y maent wedi'i gyflawni. Yn ogystal, cystadlodd un neu ddau o'm myfyrwyr yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol VAYA gan ennill tystysgrifau Aur ac Arian, gyda Khyati hefyd yn derbyn gwobr arbennig o 'Chwaraewr Addawol' yn ei chategori. Gallwch weld eu perfformiadau yma:

Khyati

Callista

Er bod gwyliau'r haf ar y gweill, rwy'n gobeithio na fydd yr un o'm myfyrwyr yn cadw draw o'r delyn ormod... mae chwarae hyd yn oed ychydig bach bob dydd yn ei gwneud hi'n llawer haws ar ein bysedd – a gobeithio y bydd yn ein hatgoffa ni i gadw'n telynau hyfryd mewn tiwn hefyd!

blaenorol
blaenorol

O'r sgrin...

Nesaf
Nesaf

Déjà Vu