Cyfansoddi
Er ei bod wedi bod yn cyfansoddi ers nifer o flynyddoedd, nid tan i Gwenllian baratoi i ryddhau ei CD gyntaf y cafodd ei hargyhoeddi o'r diwedd i gyhoeddi ambell o'i chyfansoddiadau.
Roedd cyfansoddi yn elfen o'i hastudiaethau cerddoriaeth yn yr ysgol ac yn un o'i phrosiectau yn CBCDC, a mwynhaodd Gwenllian golli ei hun yn ei gwaith, gan gyfansoddi ar gyfer amrywiaeth o ensembles ac offerynnau. Cafodd ei hysbrydoli'n arbennig gan weithdy gyda John Metcalf a phumawd gwynt tra'n dal yn yr ysgol, a chafodd y gwaith dilynol ei berfformio a'i recordio ar gwrs NYO yn dilyn rhai gwersi preifat gyda Paul Patterson.
Prif ysbrydoliaeth Gwenllian am ddychwelyd i gyfansoddi oedd ei myfyrwyr; felly, mae'r detholiad bach o waith y mae wedi'i gyhoeddi ar gyfer telyn yn unig, er eu bod wedi eu hysgrifennu i'w chwarae naill ai ar y delyn werin neu'r delyn bedal. Ei darn mwyaf poblogaidd hyd yma yw Lleuad Mefus, sydd ar hyn o bryd wedi'i osod ar faes llafur arholiadau telyn Coleg y Drindod Llundain ac sydd wedi'i berfformio sawl gwaith ar y radio drwy BBC Radio 3 a BBC Radio Cymru. Cafodd "premiere" ei chyfansoddiad diweddaraf, Ffantasi ar Calon Lan, ei ryddhau ar YouTube yn 2020, a bydd yn ymddangos ar ei CD sydd ar y gweill gyda Thŷ Cerdd.