Clychau Melys Arian

Blog Carol y Clychau.jpg

Ydi ysbryd y Nadolig wedi'ch dal chi eto?! Falle bo chi'n meddwl fy mod i'n jocan - dim ond mis Hydref yw e wedi'r cwbwl!!

Wel, ma 'mhlentyn bach bywiog a'i chof miniog (roeddwn i'n arfer cael un o'r rheiny... dwi'n meddwl) wedi bod yn gofyn am fideos Sion Corn drwy gydol y flwyddyn. Eira mis Chwefror, stormydd mis Ebrill, tywydd tanboeth mis Mehefin - roedd pob un yn berffaith i ddarllen ei hoff lyfr llyfrgell ma hi wedi mynnu ein bod yn adnewyddu drwy'r flwyddyn ers Tachwedd 2020, "Little Santa's Christmas".

Felly, sdim sypreis mod i'n dechrau paratoi'n gynnar iawn eleni ar gyfer tymor yr ŵyl. Er mwyn eich helpu i groesawu'r boreau rhewllyd a'r addurniadau disglair, rwy'n cyhoeddi fy nhrefniant o 'Carol of the Bells'. Ges i lot o hwyl yn creu'r fersiwn yma wrth baratoi ar gyfer cyngerdd ar-lein arbennig y Nadolig diwethaf - alla i ddim helpu ond teimlo'n Nadoligaidd pryd bynnag y byddaf yn ei glywed! Mae'n gân hynod boblogaidd, efallai'n fwyaf enwog am ei ddefnydd yn Home Alone, er ei fod wedi cael ei gynnwys mewn ffilmiau a rhaglenni teledu eraill di-ri. Wedi'i ysbrydoli gan fersiwn piano a glywais, mae'r trefniant hwn yn dechrau gyda phatrwm llaw dde ailadroddgar, gan adeiladu mewn drama tuag at cadenza ysgafn cyn i'r brif thema ddychwelyd. Prynwch eich copi nawr yn barod ar gyfer tymor y Nadolig!

blaenorol
blaenorol

'Flying with the Birds' ar y radio

Nesaf
Nesaf

'Argraff' arall