
Aliara Duo
Fel Artistiaid gyda City Music Foundation, cafodd Aliara Duo ei ffurfio ar sail angerdd at gydweithio a chreu rhaglenni creadigol.
Mae'r ffliwtydd Sirius Chau a'r delynores Gwenllian Llŷr wedi ennill nifer o wobrau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol am eu perfformiadau unawdol disglair, gan gynnwys yng Nghystadleuaeth Gerdd Flynyddol y Royal Over-Seas League.
Cafont eu hysbrydoli i ffurfio Aliara Duo wedi iddynt gwrdd drwy City Music Foundation, a dros y flwyddyn ddiwethaf o berfformiadau maent wedi datblygu partneriaeth gerddorol gref. Mae Sirius a Gwenllian ill dau yn awyddus i archwilio'r ystod eang o gerddoriaeth sydd eisoes ar gael ar gyfer ffliwt a thelyn, tra hefyd yn darganfod cerddoriaeth newydd a hyrwyddo cyfansoddiadau llai adnabyddus.
Perfformiadau i ddod
Dewch i weld un o berfformiadau Aliara Duo:
18 Gorffennaf 2024 - Eglwys Fethodistaidd Leatherhead, KT22 8AY