'Argraff' arall
Sai’n siwr amdano chi, ond roedd diwedd yr haf yn un eitha llwyd, fel tase’r hydref wedi cyrradd yn gynt na’r disgwyl, gan rhoi gwedd llwyd iawn ar fis Awst yn Orpington!
Am sbelen, bydden i’n dihuno i flanced o gymyle llwyd, yn hytrach na’r “ysbeidie heulog” bydde’n ffôn wedi addo. Wrth gwrs, nawr fo’r ysgolion wedi dechre ‘nôl, mae’r haul yn disgleirio unwaith eto ar ein rhosys ola yn yr ardd. Mae’r nosweithie twym wedi bod yn fy atgoffa o gyfansoddiad sgrifennais rhai blynyddoedd yn ôl, “Hwyl i’r Ha’”; felly, wrth i’r machlud ddigwydd yn gynharach ac i anrhydeddu haf arall o atgofion, dwi wedi cyhoeddi’r darn fel rhan o’r gyfres “Argraffiadau”.
Mae’r darn byr yma’n addas i’w chware ar naill ai telyn werin neu delyn bedal, i delynorion o safon tua Gradd 4. Mae naws ysgafn y darn yn golygu ei fod yn berffaith i chware fel interlude o fewn rhaglen swmpus, neu encore bach i delynorion mwy profiadol. Gwrandewch ar fy mherfformiad yna mentrwch i’r siop i brynu eich copi eich hun!